Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Digwyddiad bwrdd crwn yr ymchwiliad yn ymwneud â Gofalwyr -17 Hydref 2018

Crynodeb o’r trafodaethau

Yprif bwyntiau a nodwyd gan bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiad oedd:

§  Ychydig o ymwybyddiaeth sydd ymhlith gofalwyr o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac o hawliau gofalwyr o dan y Ddeddf - mae angen mynd i’r afael â hyn;

§  Mae angen gwell gwybodaeth am hawliau gofalwyr ac ymwybyddiaeth ohonynt o dan y Ddeddf hon hefyd ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus y mae gan ofalwyr gysylltiad â hwy - mae angen cyfeirbwynt da;

§  Dylid nodi a chefnogi gofalwyr ar y cyswllt cyntaf â gwasanaethau;

§  Nid yw staff y gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn ymwybodol o, nac yn wybodus am y problemau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, ac weithiau nid ydynt yn annog ceisiadau am asesiad;

§  Mae angen gwasanaethau hyblyg, sy’n canolbwyntio ar y person, ar gyfer gofalwyr;

§  Mae angen adolygiadau mwy aml o anghenion gofalwyr unigol;

§  Mae adnoddau a ddefnyddir i gefnogi gofalwyr yn arbed arian yn yr hirdymor;

§  Mae gofalu yn flinedig, ac mae gorfod dod o hyd i gefnogaeth, a’i chael, yn flinedig hefyd: nid oes gan ofalwyr y nerth a’r egni i wneud y ddau beth.

1.    Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf

Dywedodd Gofalwyr mai ychydig o ymwybyddiaeth a oedd ganddynt o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 cyn iddynt gysylltu ag elusennau gofalwyr. Dywedodd rhai eu bod wedi darganfod bodolaeth y Ddeddf, a’i darpariaethau ar gyfer gofalwyr, dim ond o ganlyniad i’w gwaith ymchwil eu hunain, neu gan ofalwyr eraill. 

Nid oedd y gwasanaethau iechyd, yn arbennig, wedi darparu gwybodaeth am wasanaethau i ofalwyr. Roedd teimlad nad yw’r Ddeddf a hawliau gofalwyr yn cael eu hyrwyddo a bod dealltwriaeth o’r Ddeddf ymysg gweithwyr proffesiynol yn aml yn wael.

Dywedodd rhai gweithwyr cefnogi gofalwyr fod yr optimistiaeth cychwynnol ynghylch y gwahaniaeth y byddai’r Ddeddf yn ei wneud wedi cilio. Roedd rhai pryderon, erbyn hyn, yn benodol bod y gefnogaeth a roddwyd i ofalwyr yn dibynnu ar weithwyr cymdeithasol unigol a bod angen i’r GIG chwarae rôl fwy.

Mae ar ofalwyr angen rhagor o help i ddeall eu hawliau a sut i’w cael. Gall y Ddeddf fod yn offeryn da ar gyfer cyflawni hyn. Gwasanaethau cymunedol yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o ofalwyr, felly mae gofalwyr yn dibynnu ar fod y gwasanaethau hyn ar gael i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau.

 

2.   Gofyn am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol

Roedd y profiadau a nodwyd yn awgrymu nad oedd gan rai staff ddiddordeb neu nad ydynt yn annog yn hyn o beth.I’r gwrthwyneb, roedd staff eraill yn gymwynasgar.  Roedd y profiadau o geisio cael asesiad yn amlygu’r rhwystrau sy’n gwangalonni pobl i beidio ceisio cael asesiad – e.e. cwestiynu pam mae angen asesiad neu orfod gwneud sawl ymdrech i gael asesiad - dyma brofiad nifer o’r gofalwyr. 

Mae diffyg eglurder gan y gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â’r diffiniad o asesiad gofalwyr. Roedd rhai o’r cyfranogwyr wedi cael asesiad ond nid oeddent wedi cael gwasanaethau, am nad oeddent wedi bodloni’r meini prawf cymhwyster

Mae rhai pobl yn amharod i fynd at y gwasanaethau cymdeithasol - mae stigma yn gysylltiedig â’r peth, a mynegodd rhai ofn eu bod yn ymddangos eu bod yn methu â gofalu am eu plant. Teimlwyd y dylai sefydliad annibynnol gynnal asesiadau gofalwyr.  Byddai hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal ar wahân i’r person sy’n derbyn gofal, ac heb gael eu sbarduno gan ystyriaethau o ran adnoddau.  Dylai gofalwyr allu dewis lle mae’r asesiad yn digwydd - mae’n well gan rai pobl gael eu hasesu heb y person sy’n derbyn gofal.

Dywedodd gofalwyr nad yw pobl yn gwrando arnynt weithiau a’u bod yn teimlo’n nad oes ganddynt unrhyw rym.

Cafwyd barn ymhlith rhai cyfranogwyr bod y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yn cael eu sbarduno gan brosesau a thargedau ac nad yw’r rhain yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Fodd bynnag, roedd pobl wedi cael profiad o wasanaethau da a gwasanaethau gwael.

Maecyllid yn anghyson. Mae deddfwriaeth yn ddibwrpas heb yr adnoddau i’w gweithredu.

Mae gwasanaethau yn ymateb pan fydd ganddynt ddyletswydd i wneud hynny, ond nid ydynt cystal pan nad oes dyletswydd.

Ar ôl gwneud asesiad o ofalwr, mae’n bwysig dilyn y mater yn achlysurol i wirio sut mae pethau’n mynd. Weithiau nid oes dim person cyswllt yn y gwasanaethau cymdeithasol i ddilyn materion yn ymwneud ag asesiadau.

Mae yna broblemau’n ymwneud â chymorth ariannol i ofalwyr, gan gynnwys diffyg anwybyddu enillion (yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd gyda pherson sy’n derbyn gofal), ac nad yw myfyrwyr amser llawn yn gymwys i gael Lwfans Gofalwyr.

Mae arferion casglu data gan awdurdodau lleol yn wael. Er enghraifft, nid yw data’n cael ei gasglu ar y cymorth y mae gofalwyr ei angen, nac yn ei gael.

"Mae rhywun yn gorfod stryffaglu bob dydd"

"Mae gorfod brwydro am wasanaethau yn waith blinedig"

 

3.   Gwybodaeth a chymorth

Yn gyffredinol, roedd gofalwyr yn teimlo bod diffyg gwybodaeth am wasanaethau i ofalwyr yn y mannau lle byddai’n fwyaf defnyddiol a hygyrch, fel meddygfeydd meddygon teulu. Dylai gwybodaeth am sut i gael asesiad fod ar gael yn rhwydd.  Mae lleoedd fel llyfrgelloedd, ysbytai, swyddfeydd post, banciau bwyd, byrddau cymunedol mewn archfarchnadoedd, a’r cyfryngau cymdeithasol yn addas. Roedd rhai gofalwyr wedi gorfod dod o hyd i’r wybodaeth eu hunain. 

Sefydliadau’r trydydd sector, yn aml, fu’r ffynhonnell wybodaeth a chyngor orau, ond cafwyd mynediad ati yn aml yn ddiweddarach yn y broses, pan oedd gofalwyr wedi darganfod gwasanaethau’r sector gwirfoddol.  

Mewn rhai achosion, cafodd gofalwr wybodaeth a chymorth dim ond pan oedd wedi cyrraedd pwynt argyfwng a’i fod wedi cael gwasanaethau statudol.  Mae angen gwybodaeth a chyngor dilynol; nid yw’n ddigon i’w ddarparu dim ond ar adeg y diagnosis, ni all pobl gofio’r holl wybodaeth bryd hynny.

Dywedodd un person y rhoddir gwybodaeth i bobl â salwch corfforol am yr hyn y gallant ei ddisgwyl a sut i reoli eu cyflwr a’r driniaeth ohono, ond nid ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl.

"Mae ar bobl angen cyfeirbwynt  - sef, map ffordd ac arweiniad ar sut i ddelio â gwasanaethau."

"Mae dod o hyd i gymorth fel gofalwr yn fater o lwc."

Cafwyd profiadau cymysg o ofal seibiant - efallai bod gofal seibiant yn brin, yn anaddas neu’n annibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac ar benwythnosau, ond roedd rhai wedi cael gwasanaeth defnyddiol, hyd yn oed os oedd wedi cymryd peth ymdrech i’w gael.  Roedd un person sy’n gofalu am ddau blentyn yn aros am naw mlynedd am ofal seibiant cydlynol. Dywedodd pobl eraill eu bod yn gorfod trefnu a chydlynu eu gofal seibiant eu hunain, neu eu bod yn cyd-fynd â gwasanaethau seibiant yn hytrach na bod y gwasanaethau wedi’u haddasu i’w hanghenion.  Mae angen rhagor o hyblygrwydd.

Roedd canmoliaeth i’r gefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau’r trydydd sector - roedd y rhan fwyaf o ofalwyr a oedd yn cymryd rhan wedi cael cymorth ganddynt, gan gynnwys gan Tŷ Hapus a Crossroads Care yn y Fro, Cymdeithas MND, Credu Cymru, Hafal, Bi-Polar UK, Marie Curie, y Gymdeithas Alzheimer ac Ambiwlans Sant Ioan. 

Roedd canmoliaeth hefyd i’r gefnogaeth a ddarperir gan y canolfannau gofalwyr - dywedodd un person bod y ganolfan ofalwyr wedi cynnig cefnogaeth ar adeg pan oedd hi’n ystyried lladd ei hun.  Gwelwyd bod canolfannau gofalwyr yn gallu arbed arian cyhoeddus a nododd rhai pobl y trefniadau cyllido ansicr. Mae peidio â chynnal gofalwyr yn costio rhagor o arian yn yr hirdymor - mae eu hiechyd yn dirywio a dônt yn fwy dibynnol ar y GIG, yn methu â gweithio ac ati. Mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus. Mae rhai canolfannau gofalwyr yn cynnig cwnsela, ond mae angen rhagor o wasanaethau ac mae cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn gyfyngedig.

Cafwyd cytundeb cyffredinol bod gofalu yn dasg hollol flinedig (mae rhai pobl yn gofalu am fwy nag un person) a bod gorfod chwilio am wasanaethau a chymorth, a brwydro i’w cael yn flinedig iawn hefyd: nid oes gan ofalwyr y cryfder na’r egni i wneud hynny.


 

4.   Awgrymiadau ar gyfer gwella cefnogaeth a gwybodaeth.

§  Awgrymodd nifer o bobl fod adolygiad blynyddol ar gyfer gofalwyr yn angenrheidiol i ystyried amgylchiadau sy’n newid. Cafwyd awgrym y gellid gwneud hyn drwy feddygfeydd meddygon teulu ac y dylai gynnwys adolygu anghenion iechyd corfforol ac iechyd emosiynol gofalwyr.

§  Person cyswllt ym mhob ysbyty i gynrychioli gofalwyr ac i gynnig cyfeirbwynt cyn bod y gofalwyr, neu’r rhai a nodir fel rhai sy’n debygol o ddod yn ofalwyr, yn gadael.

§  Cefnogaeth ôl-ofal i ofalwyr pan fydd y person sy’n derbyn gofal yn marw neu’n symud i ofal preswyl parhaol.

§  Mae angen cyfeiriad / cyfeirbwynt / arweiniad ar wasanaethau gofalwyr ar adeg diagnosis. Dylai’r holl wasanaethau perthnasol allu cynnig hyn – sef, meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, archfarchnadoedd, y cyfryngau cymdeithasol, y gwasanaethau cynghori ac ati. 

§  Dylid darparu cefnogaeth i ofalwyr gan y sefydliad mwyaf priodol, boed hwnnw y sector statudol, y trydydd sector ac ati. Dylai bod "tîm cyfan sy’n rhoi sylw i’r gofalwr"

§  Mae angen dilyniant prydlon, ac mae angen diweddaru asesiadau gofalwyr mewn ymateb i anghenion sy’n newid y gofalwr a’r unigolyn sy’n derbyn gofal. Mae gofal seibiant a chymorth iechyd meddwl yn arbennig, yn angenrheidiol.

§  Pasbort gofalwyr – fel tystiolaeth eich bod yn ofalwr, i alluogi mynediad at wasanaethau yn rhwydd ac i roi manylion ynghylch triniaeth a meddyginiaethau’r unigolyn hyd yn hyn, er mwyn osgoi esboniadau ailadroddus.

§  Mae angen yr hawl ar ofalwyr i gynrychioli’r person sy’n derbyn gofal wrth gyfathrebu â gwasanaethau cefnogi.

§  Dylai’r gofynion ar ofalwyr gael eu hystyried o fewn yr amseroedd aros am sylw meddygol.

§  Mae angen gwell dulliau casglu data.

§  Rhagor o unffurfiaeth o ran gwasanaethau rhwng awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a ledled Cymru.

§  Gwella cyfathrebu yn ymwneud â’r Ddeddf

§  Dosbarthu y canllaw hunan-gymorth Carers Light, er enghraifft, i feddygfeydd teulu.

§  Rhannu arfer da.

§  Gwella ymwybyddiaeth o ofalwyr a gwella’r gydnabyddiaeth iddynt.

§  Mae angen cyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru arnom, yn lle awgrymiadau.


 

Argymhellion o bob bwrdd

Bwrdd 1

1.    Mae angen gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y person - ni ddylai pobl orfod dim ond cyd-fynd â’r hyn sydd ar gael, mae hyblygrwydd yn bwysig.

2.    Mae angen adran ar wahân i ymdrin ag asesiadau gofalwyr.

3.    Mae angen monitro ac adolygu anghenion pob gofalwr yn barhaus.

Pwyntiau eraill: dylai fod gan ofalwyr yr hawl i gynrychioli’r person sy’n derbyn gofal; ni ddylid eu hasesu ym mhresenoldeb y person sy’n derbyn gofal; nid oes dim cydnabyddiaeth o’r rôl gofalu ddwbl.

Bwrdd 2

1.    Mae angen cyfeiriad / cyfeirbwynt / arweiniad at wasanaethau gofalwyr ar adeg y diagnosis.  Dylai’r holl wasanaethau perthnasol allu cynnig hyn – sef, meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cynghori ac ati.  Mae cyfathrebu yn hanfodol - er mwyn sicrhau bod darparwyr gwasanaeth, a gofalwyr eu hunain, yn gwybod am wasanaethau gofalwyr.

2.    Dylid darparu cefnogaeth i ofalwyr gan y sefydliad mwyaf priodol, boed yn y sector statudol, neu’r trydydd sector ac ati. Dylai "tîm cyfan sy’n rhoi sylw i’r gofalwr" fodoli.

3.    Mae angen dilyniant prydlon, ac mae angen diweddaru asesiadau gofalwyr mewn ymateb i anghenion sy’n newid y gofalwr a’r unigolyn sy’n derbyn gofal.  Mae angen gofal seibiant a chymorth iechyd meddwl yn arbennig.

Mae’n rhaid i bobl frwydro ar eu pennau’u hunain i gael cefnogaeth.

Bwrdd 3

1.    Dylid nodi gofalwyr cyn gynted â’u bod mewn cysylltiad â gwasanaethau (dylai’r asesiad ddechrau yno).

2.    Bu gostyngiad yn y gefnogaeth sydd ar gael ers i Fesur y Gofalwyr ddod i ben.

3.    Mae angen canllaw ar hawliau gofalwyr - gwybodaeth am ba help y gallent ei gael.

4.    Mae gofalwr am blentyn yn parhau i fod yn ofalwr, hyd yn oed pan fydd y plentyn yn dod yn oedolyn.  Yna mae angen iddynt gael llais / cymryd rhan / gwybod beth sy’n digwydd. (mae gofalwyr perthnasau yn aml yn cael eu heithrio hefyd).

5.    Mae gormod o bolisïau cyffredinol - mae angen cefnogaeth bersonol.

6.    Mae adolygiadau yn anaml - mae angen gwell dulliau monitro.

Mae enghreifftiau o arferion da y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt – e.e. ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y triongl gofal), Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae angen lledaenu gwybodaeth am yr enghreifftiau hyn.


 

Bwrdd 4

1.    Mae angen cyfathrebu / gwybodaeth dda – e.e. ar yr hyn y mae gan ofalwyr hawl iddo.

2.    Dylai fod gweithwyr allgymorth mewn ysbytai a all roi cyngor a gwybodaeth.

3.    Dylai fod adolygiad blynyddol o anghenion pob gofalwr.

4.    Mae angen adnoddau ychwanegol i gefnogi gofalwyr - mae’n arbed arian yn y pen draw.